Castell Caernarfon
Castell Caernarfon
Cawres o gaer. Mae cadernid anhygoel Castell Caernarfon yn bresenoldeb bygythiol. Byddai ymosod ar y strwythur enfawr hwn wedi bod yn syniad brawychus. Drwy ddefnyddio carreg i bwysleisio ei awdurdod, creodd y Brenin Edward I un or cestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru. Yn gwbl haeddiannol o statws Treftadaeth y Byd.
Tyrau crwn syn nodweddur rhan fwyaf o gestyll, ond nid Caernarfon! Tyrau polygon a welir yma, gyda Thwr yr Eryr yn goron arnynt. Sylwch hefyd ar y ffordd maer cerrig wediu trefnun ofalus mewn bandiau lliw.
Nid ar ddamwain y dewiswyd lleoliad y castell mawreddog hwn. Castell mwnt a beili Normanaidd a welwyd ar y safle yn flaenorol, a chyn hynny safai caer Rufeinig gerllaw. Roedd atynfar dwr a mynediad hawdd ir mÔr yn golygu bod glannau Afon Seiont yn fan delfrydol ar gyfer y cawr hwn o gastell a adeiladwyd gan Edward.
Nid oedd Edward yn un i golli cyfle i atgyfnerthu ei afael ar y boblogaeth frodorol. Roedd genedigaeth ei fab, Tywysog Seisnig cyntaf Cymru, yn y castell yn 1284, yn ffordd berffaith o ddangos ei oruchafiaeth. Yn 1969, cafodd Tywysog presennol Cymru, EUB Tywysog Siarl ei arwisgo yma.
Castell Caernarfon Statistics: 92 click throughs, 2815 views since start of 2024
Attraction in Caernarfon Gwynedd
Entrance Charge
- Oedolion £4.95 Pris Gostyngol £4.60
- Tocyn Teulu £14.50 (2 oedolyn a phob plentyn o dan 16 oed)
- Plant o dan 5 oed AM DDIM
- Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. Prisiaun ddilys tan 31ain Mawrth 2010.
Opening Times
Mynediad olaf 30 munud cyn cau. 1 Ebr-31 Hyd 09 9am-5pm yn ddyddiol 1 Tach 09-31 Maw 10 Llun-Sad 9.30am-4pm, Sul 11am-4pm Ar gau 24, 25, 26 Rhag, 1 Ion
News and Special Offers
Gofynnwch am fynediad am ddim os ydych yn byw yng Nghymru ac yn 60 oed neu'n hyn neu'n 16 oed neu'n iau.
-
Contact Details
phone: 01286 677617 fax:Castell Caernarfon
Castle Ditch.. Caernarfon Gwynedd LL55 2AY UK