Llugwy River Restaurant at the Royal Oak Hotel

Betws-y-Coed

Castell Dolwyddelan

Click here for English version of this page website link

Castell Dolwyddelan

Cestyll a mynyddoedd. Dolwyddelan ac Eryri. Cymheiriaid perffaith. Mae gwella ar waith natur yn haws dweud na gwneud ond mae’r castell hardd hwn a’i gartref creigiog yn cydblethu’n wych. Mae’r diolch am hynny i Dywysog Gwynedd yng Ngogledd Cymru a llywodraethwr y rhan fwyaf o Gymru, Llywelyn Fawr.

Dolwyddelan_Castle_03.jpg

Roedd Llywelyn ab Iorwerth (1173-1240), fel y’i gelwid hefyd, yn adnabod ei filltir sgwâr yn well nag unrhyw un. Roedd Dolwyddelan, ynghyd â Dolbadarn a Phrysor, yn ffurfio casgliad o gadarnleoedd allweddol yn y mynyddoedd a oedd yn strategol bwysig i lywodraethwr Cymru. Ar Ôl cyfnod Llywelyn, trosglwyddwyd y castell i’w wyr Llywelyn ap Gruffudd. Llwyddodd yntau i atal lluoedd Edward am gyfnod.

Dolwyddelan_Castle_02.jpg

Yn ddiweddarach, ychwanegodd Llywelyn lenfur sy’n amgylchynu’r iard at y gorthwr mawreddog. Aeth y Saeson ymlaen i ail-atgyfnerthu’r castell ac ychwanegwyd twr hirsgwar arall. Ni fu mor llwyddiannus â’r cyntaf. Efallai fod cyfiawnder wedi’r cwbl olion yn unig a welir o’r twr hwn heddiw.

Dolwyddelan_Castle_04.jpg

Gydag ychydig gymorth pobl Oes Fictoria i’w hadfer, mae’r gaer hon o’r 13eg ganrif bellach yn gampwaith.

Castell Dolwyddelan Statistics: 45 click throughs, 1784 views since start of 2024

Dolwyddelan.jpgAttraction in Conwy

Llugwy River Restaurant at the Royal Oak Hotel Betws-y-Coed Conwy

Powered by Web4-u | Wales Tourist Information

591 click throughs, 13305 views since start of 2024